P-04-459 Cysylltiad rheilffordd uniongyrchol o Faes Awyr Caerdydd i ganol Caerdydd a gorllewin Cymru

Geiriad y ddeiseb:

Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i ddatblygu cysylltiad rheilffordd uniongyrchol o Faes Awyr Caerdydd i ganol Caerdydd a gorllewin Cymru.

Mae angen mawr am linell reilffordd gyflym uniongyrchol o Faes Awyr Caerdydd i orsaf drenau Caerdydd Canolog (ac i orllewin Cymru) fel bod y gwasanaethau a’r ddarpariaeth briodol ar gael yn ein Maes Awyr Cenedlaethol ar gyfer ymwelwyr cenedlaethol a rhyngwladol. Mae gorsaf reilffordd yn y Rhws eisoes, sy’n llai na milltir o’r maes awyr. Mae’n gyfle na ddylid ei golli i estyn y llinell i Faes Awyr Rhyngwladol Caerdydd fel y gall teithwyr o bob rhan o’r byd neidio yn syth ar ôl glanio ar drên sy’n mynd â nhw i brifddinas Cymru a thu hwnt i hynny.

Prif ddeisebydd: Cymru Sofren

Ysytyriwyd am y tro cyntaf gan y Pwyllgor:  19 Mawrth 2013

Nifer y llofnodion: 39